top of page
Search

Sgam Wylio - yr ebost "parsel ar ei ffordd"


Dyma ebost dderbynwyd bore ma. Be am i ni gymeryd golwg manylach arno i benderfynu os ydio'n ebost dilys neu yn Sgam!


Cyfeiriad ebost

Doeddwn i ddim yn adnabod yr ebost a gan ei fod gyfeiriad @gmail.com mae'n amlwg bod yr ebost ddim wedi dod gan gwmni. Doedd enw y danfonwr ddim chwaith yn cyd fynd gyda yr enw oedd yn ffurfio yr ebost.


Y neges

Does dim byd yn y neges yn deud be sydd yn cael ei ddanfon. Does dim cofnod o'r cyfeiriad dim ond "the address you supplied"

Mae'r derbynydd yn mynd i deimlo bod yna gamgymeriad wedi digwydd neu bod rhywyn wedi defnyddio ei cyfrif i brynu rhywbeth heb ganiatad.

Tric mae troseddwyr yn ei ddefnyddio ydi ceisio brysio y derbynydd i wneud penderfyniad brys heb feddwl os ydi'r ebost yn wir.

Mae'r defnydd o "...is in the final stages" yn gwneud i'r derbynydd feddwl bod nhw efallai yn gallu rhoi stop ar y parsel ac atal y taliad.


Atodyn

RHYBYDD PEIDIWCH AGOR ATODYNIAID O FFYNHONELLAU NAD YDY'CH YN EU HADNABOD.

Ar ol profi bod yr atodiad ddim yn cynnwys malwedd drwy ein dulliau ymchwilio diogel mi wnaetho ni edrych ar gynnwys y PDF.

Doedd dim cliw yn enw y ffeil ond dyma oedd cynnwys y ffeil.



Mae'r twyllwyr yn defnyddio enw PayPal gan fod nifer fawr o ddefnyddwyr yn ei ddefnyddio.

Gweli'r bod neges yn yr atodyn yn wahanol i're ebost. Yma maen't yn deud bod taliad anghyfreithlon wedi ei dynnu o'ch cyfrif. Mae gan y derbynydd 12 awr i atal y taliad felly mae'r drwgweithredwyr yn rhoi pwysau amser arnynt.

Mae'n od bod modd canslo'r taliad er bod y neges yn deud bod y talaid wedi ei adnabod fel un anghyfreithlon.

Y modd o ganslo'r taliad ydi i ffonio rhif yn yr UDA, o edrych ar wefan PayPal, dim dyma'r rhif mae PayPal yn ei hysbysebu fel ffon i gwsmeriaid.

Mi roddon ni alwad i'r rhif a chafwyd ateb. Mi wnaethom gadw'n ddistaw i weld pa ymateb y byddwn yn cael. Nid oedd y person gyda acen UDA ac ar ol 5 "Hello" mi gofiodd ddweud " This is PayPal helpline"

Mae'n debyg bod y rhif yn un ffug ac yn cael ei ddargyfeirio i wlad arall.

Mae'r rhif ffon yn cael ei bwysleiso dair gwaith ac mae'n nhw yn pwysleisio mae dim ond drwy'r ffon y mae cysylltu i sortio y broblem.

Yn olaf, ar waelod y llythyr bod y dolenau ddim yn gweithio a bod y marc hawlfraint yn dangos 2023.


Casgliad

Mae yna ddigon o dystiolaeth yn yr ebost a'r atodiad i ddangos bod hwn yn sgam.

Mae'r ebost wedi anfon ymlaen i'r NCSC report@phishing.gov.uk

am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma ewch i https://www.ncsc.gov.uk/collection/phishing-scams/report-scam-email



Comentários


bottom of page